Mae fy nghalon am ymadael
A phob eilun, fach a mawr,
Am fod arni'n argraffedig
Ddelw gwrthddrych uwch y llawr,
Bythol deilwng i'w addoli,
Ei garu, a'i barchu, yn y byd,
Bywyd myrdd o
safn marwolaeth
Gafwyd yn ei angau drud.
Ann Griffiths 1776-1805
[Mesur: 8787D] gwelir: Er mai cwbwl groes i natur Llwybyr cwbwl groes i natur Mae'r dydd yn dod i'r had brenhinol |
My heart wants to leave
Every idol, small and great,
Because there is printed on it
The image of an object above the earth,
Forever worthy to be worshipped,
Loved, and revered, in the world,
The life of a myriad from
the jaws of mortality
Was got in his precious death.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|